Fe fyddai’n “anghyfrifol” addo y bydd cyllideb y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn cael ei ddiogelu rhag toriadau, meddai’r Prif Weinidog Carwyn Jones heddiw.
Dywedodd y byddai gwario ar ysbytai yn cael ei amddiffyn, ond na allai sicrhau y byddai gweddill y gwasanaeth iechyd yn cael ei amddiffyn rhag y toriadau.
Wrth ateb cwestiynau yn y Senedd, dywedodd Carwyn Jones fod cyllideb Llywodraeth y Cynulliad yn cael ei wasgu gan Fformiwla Barnett, sy’n penderfynu faint o arian mae Cymru yn ei gael gan y Trysorlys.
Ni fydd union faint cyllideb Llywodraeth y Cynulliad yn hysbys tan yr Adolygiad Gwario Cynhwysfawr ar 20 Hydref, meddai.
Roedd y Prif Weinidog yn ymateb i gwestiwn gan arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Nick Bourne, oedd yndweud fod yna “gwmwl o gyfrinachedd” yn gorchuddio gwariant ar iechyd.
“Rydym ni wedi dweud ein bod ni’n mynd i geisio gwarchod ysbytai,” meddai Carwyn Jones.
“Mae’n anodd dweud unrhyw beth ynglŷn â’r gyllideb iechyd cyfan eto oherwydd bod y fformiwla Barnett yn ein gwasgu ni’n galed.
“Fe fyddai’n anghyfrifol i fi awgrymu ei bod hi’n bosib gwarchod y gyllideb iechyd cyfan, o ystyried nad ydym ni’n gwybod eto faint o arian fydden ni’n ei gael gan Lywodraeth San Steffan ar 20 Hydref.”
Gwrthododd galwad Nick Bourne am adolygiad gwario annibynnol.
“Fy marn i yw mai swyddogaeth y Cynulliad yw archwilio Llywodraeth y Cynulliad ac nad oes angen cwango annibynnol arall i’w wneud o hefyd,” meddai’r Prif Weinidog.