Ni fydd carcharorion yn cael byw bywyd “segur” yn y dyfodol, ac fe fydden nhw’n gorfod gweithio’n galed er mwyn gwneud yn iawn am eu troseddau, cyhoeddodd Ken Clarke heddiw.
Dywedodd y Gweinidog Cyfiawnder ei fod o eisiau i garchardai fod yn “lefydd y bydd carcharorion yn gweithio’n galed er mwyn gwella eu hunain”.
Ychwanegodd y byddai cwmnïau preifat yn cael y cyfle i ailsefydlu carcharorion yn eu cymunedau ac yn cael eu talu yn ôl y canlyniadau.
Mae’r sustem bresennol yn rhoi’r dewis i garcharorion a ydyn nhw eisiau codi allan o’r gwely yn y bore ai peidio, meddai.
Fe ddylen nhw weithio mewn swyddi naw tan bump ac ennill cymwysterau, meddai Ken Clarke yng nghynhadledd y Blaid Geidwadol yn Birmingham.
Fe fyddai un o bob pum punt y byddai gwaith y carcharorion yn ei gynhyrchu yn cael ei roi mewn cronfa ar gyfer dioddefwyr, tra bod y gweddill yn talu am gadw’r carcharorion yn y ddalfa.
‘Bywydau diflas’
Mae’r Weinyddiaeth Cyfiawnder yn gobeithio arbed tua £2 biliwn o’i gyllideb fel rhan o Adolygiad Gwario Cynhwysfawr y Canghellor, George Osborne.
Mae Ken Clarke hefyd yn gobeithio y bydd rhoi’r pwyslais ar ailsefydlu carcharorion yn eu cymunedau, a dedfrydau cymunedol, yn torri nifer y bobol sy’n cael eu cadw mewn carchardai.
Dyw ei syniadau ddim yn boblogaidd gyda nifer o Geidwadwyr sy’n credu mai cosbi yw’r nod wrth yrru pobol i’r carchar a bod dedfrydau cymunedol yn rhy hawdd.
“Ond pwysleisioddd Ken Clarke y dylai “troseddwyr treisgar a pheryglus fod yn y carchar, ddim yn crwydro ein strydoedd”.
“Mae’n rhaid i garcharorion weithio’n galetach. Mae’n rhan fwyaf yn byw bywydau diflas yn segura, a does dim rhaid i’r rhan fwyaf ohonyn nhw godi o’u gwlâu.”