Nid y Prif Weinidog ddylai gael y cyfrifoldeb o ymchwilio i gwynion yn erbyn aelodau ei Gabinet, meddai arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Kirsty Williams, heddiw.

Carwyn Jones sy’n ymchwilio i honiadau bod gweinidogion wedi torri rheolau gweinidogaethol y Cynulliad.

Dywedodd Kirtsy Williams y byddai’r sustem yn fwy di-duedd ac atebol pe bai rhywun arall yn cymryd y cyfrifoldeb.

Daw hyn ar ôl i Carwyn Jones wfftio honiadau Kirtsy Williams bod y gweinidog iechyd wedi camarwain y Cynulliad drwy gelu adroddiad oedd yn beirniadu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru.

“Mae’n rhaid i weinidogion y llywodraeth fod yn hollol agored ac yn atebol i bobol Cymru,” meddai Kirsty Williams.

“Mae’r Prif Weinidog wedi bod yn ymchwilio i aelodau ei Gabinet a’i blaid ei hun.

“Mae’n gwbl annerbyniol nad oes yna unrhyw archwiliad annibynnol o’r rheolau gweinidogaetholl. Pwy sy’n gwylio’r gwylwyr?”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y Cynulliad mai “y Prif Weinidog sy’n gyfrifol am y rheolau gweinidogaethol. Does yna ddim cynlluniau i newid hynny”.