Mae rheolwr Derby, Nigel Clough wedi dweud y byddai ei gapten, Robbie Savage yn gallu ymdopi gyda dychwelyd i chwarae pêl droed rhyngwladol unwaith eto.
Dyw Savage heb chwarae i Gymru ers 2005 yn dilyn ffrae gyda cyn hyfforddwr Cymru, John Toshack.
Ond ers i Toshack ymddiswyddo fis diwethaf, mae’r drws wedi ail agor i’r chwaraewr canol cae sydd wedi ennill 39 cap dros Gymru.
Mae Brian Flynn wedi cymryd yr awenau am y ddwy gêm ragbrofol nesaf yn erbyn Bwlgaria a’r Swistir.
Er nad yw Savage wedi cael ei gynnwys yn y garfan y tro hwn, dyw Flynn heb gau’r drws yn gyfan gwbl arno.
Datgelodd Brian Flynn dydd Sadwrn ei fod o eisoes wedi siarad gyda Savage a bod hwnnw’n awyddus i ymddangos unwaith eto.
“Dydw i ddim yn meddwl y byddai chwarae i Gymru eto tu hwnt iddo,” meddai Nigel Clough.
“Mae o wedi bod yn chwaraewr da iawn i ni dros y blynyddoedd diwethaf. Mae chwarae tair gêm mewn wythnos ar y lefel yma yn ei oedran ef yn dangos pa mor ffit ydi o a pha mor awyddus y mae i barhau i chwarae.”