Mae trefnwyr rygbi Ewrop wedi rhybuddio y byddan nhw’n talu sylw arbennig i ddisgyblaeth chwaraewyr wrth i’r Cwpan Heineken ac Amlin gychwyn y penwythnos yma.
Mae awdurdod rygbi Ewrop, ERC, wedi cynnal trafodaethau dros yr haf gyda’r IRB ynglŷn â rheolau disgyblu.
Mae Prif Weithredwr Cwpan Rygbi Ewrop, Derek McGrath wedi dweud eu bod nhw am wella disgyblaeth ar, ac oddi ar, y cae’r tymor yma.
“R’yn ni’n canolbwyntio ar sicrhau bod ein twrnameintiau yn cael eu cynnal mewn modd teg,” meddai Derek McGrath.
Ond wfftiodd yr awgrym mai ymateb i sgandal “Bloodgate” oedd y cyhoeddiad.
Mae’r sgandal ddigwyddodd yn ystod gêm rownd wyth olaf y Cwpan Heineken rhwng Harlequins a Leinster yn 2009 wedi bod ‘nôl yn y newyddion yn ddiweddar, yn dilyn gwrandawiadau disgyblu ar gyfer cyn meddyg yr Harlequins, Dr Wendy Chapman a’u ffisiotherapydd, Steph Brennan.
Fe gafodd Dr Wendy Chapman yr hawl i barhau i weithio fel meddyg yn dilyn gwrandawiad gan Gyngor Meddygol Cyffredinol ym mis Medi.
Ond fe gafodd Steph Brennan ei wahardd o’i waith am ei ran yn y sgandal.
Roedd Harlequins eisoes wedi cael dirwy o £258,000, ac fe gafodd cyfarwyddwr rygbi’r clwb, Dean Richards ei wahardd am dair blynedd.
Difrifol
“R’yn ni wedi gweld sawl achos difrifol dros y blynyddoedd,” meddai Derek McGrath. “Dyw hyn ddim yn sylw ar achos penodol, ond wrth i’r gêm dyfu, mae’n bwysig ein bod yn gwarchod gonestrwydd y cystadlaethau a phawb sydd yn rhan ohonyn nhw.
“Mae chwaraeon eraill wedi gorfod delio gyda materion disgyblu ar y cae ac oddi ar y cae. Mae’n rhaid i ni ddysgu’r un gwersi a nhw a gwarchod enw da’r gêm rhag cael ei niweidio.”