Mae 145,151 o bobol wedi arwyddo deiseb ar Facebook gan ddweud y dylai un o ymgeiswyr X Factor, Gamu Nhengu, fynd drwodd i rowndiau terfynol y rhaglen.
Roedd un o’r beirniaid, Cheryl Cole, wedi dweud wrth Gamu,18 oed, nad oedd hi’n ddigon da i fynd drwodd i rowndiau terfynol y gystadleuaeth.
Roedd y penderfyniad yn un dadleuol, wrth i gystadleuydd arall, oedd wedi dioddef o donsilitis yn ystod y rownd ragbrofol ac a fethodd orffen ei chân, gael ei dewis yn un o’r tri i’w mentora gan Cheryl eleni.
Eisoes roedd yna honiadau mai problemau gyda visa Gamu, sydd o Zimbabwe yn wreiddiol, oedd y rheswm na chafodd hi le yn y rowndiau terfynol.
Ond dywedodd llefarydd ar ran ITV1 “nad dyna’r rheswm iddi beidio â chyrraedd y 12 olaf.”
Er na chafodd Gamu Nhengu ei dewis mae’r bwci Paddy Power wedi dweud ei bod hi dal yn un o’r ffefrynnau i ennill y gystadleuaeth.
Mae hynny’n awgrymu ei bod hi am gael cyfle gan y beirniaid i ymddangos ar X Factor wedi’r cwbwl ac y bydd hynny’n cael ei gyhoeddi yn y rhaglen nesaf dydd Sadwrn.
Fe fydd y gystadleuaeth yn dechrau o ddifri dydd Sul, wrth i’r cantorion frwydro am bleidleisiau’r cyhoedd yn y sioeau byw.