Mae wedi bod yn brysur iawn arna i’n ddiweddar a dyna pam y diffyg blogio. Dw i ddim yn cwyno -mae mynd ar ôl hynt stori tu allan i furiau’r Cynulliad yn fwy o bleser nag o boen ond mae yn cyfyngu ar yr amser i wneud pethau eraill. Uchafbwynt wythnos diwethaf oedd cwrdd â Dic Deryn ond stori arall yw honno. Fe wnes i i Ifan Huw Dafydd deimlo’n hen wrth ddweud wrtho mod i’n ffan ers yn ferch fach…
Beth bynnag, nôl at y gwaith bara menyn. Roedd Nick Clegg yn y Cynulliad wythnos diwethaf. Am wahaniaeth rhwng ymweliad arweinydd Prydeinig y Democratiaid Rhyddfrydol cyn Mai 2010 ac ymweliad y Dirprwy Brif Weinidog wedi Mai 2010. Munudau’n unig gafodd y wasg brint yn ei gwmni, ac ITV a hyd yn oed y BBC yn cael trafferth i gael mwy na phum munud ohono ar gamera. Roedd yna gyfnod pan y byddai’r Democratiaid Rhyddfrydol bron â bod yn ymbil arnon ni i siarad â’u mab darogan. Newidiodd Clegg-mania hynny wrth gwrs. Roedd e’n hyfryd iawn yn ôl ei arfer ddydd Iau ond mae wedi cael ei drwytho yn iaith y toriadau. Bai Llafur yw’r toriadau oedd y neges bendant, pa bynnag gyfrwng oedd yn holi’r cwestiynau a beth bynnag oedd y cwestiwn.
Blog yr ydw i wedi bod yn sylwi mod i’n edrych arno fe’n fwy-fwy rheolaidd yw un y Sefydliad Materion Cymreig, clickonwales. Yr wythnos o’r blaen roedd addysg yng Nghaerdydd unwaith eto’n cael sylw gyda’r cyhoeddiad bod y Llywodraeth wedi cadarnhau’r arian i godi trydedd ysgol uwchradd Gymraeg yng Nghaerdydd ar safle ysgol St Teilo yn ardal Pentwyn o’r ddinas. Ond tynnodd Rhodri Morgan y sylw nol at ei etholaeth ef a thynnu nyth cacwn i’w ben yr un pryd ar clickonwales a holi oes plan b gan gyngor Caerdydd o ran sefyllfa Treganna tu hwnt i adeiladu ysgol newydd. Dyw hi ddim yn gyfrinach bod y cyngor wedi hen edrych ar plan b, c, ch ac efallai hyd yn oed d cyn edrych ar y cynllun diweddaraf. Dyw Rhodri ddim yn gwneud ffafrau â Carwyn trwy ddatgan ei ddiddordeb mor glir yn sefyllfa addysg gynradd yn ei etholaeth. Mae ond yn bwydo’r gred ar lawr gwlad mai penderfyniad y cyn Brif Weinidog oedd gwrthod cynllun diwethaf y cyngor mewn gwirionedd, nid penderfyniad y Prif Weinidog cyfredol.
Pwnc sy’n cael sylw am resymau amlwg ar y blog hwn yw S4C ac mae clickonwales hefyd wedi cynnal trafodaethau ar sefyllfa’r sianel. Dim rhyfedd efallai a Geraint Talfan Davies a rôl mor flaenllaw gyda’r Sefydliad. Y blog diweddaraf ar y wefan yw un Ian Hargreaves, awdur adroddiad Hargreaves ar y diwydiannau digidol. Mae’n werth ei ddarllen.
S4C oedd tu ôl i rali myfyrwyr Cymdeithas yr Iaith tu fas i Undeb y Myfyrwyr ddoe. Roedd braidd yn ddi-drefn ac roedd fydoedd i ffwrdd o raliau oes aur y Gymdeithas ond mae’n amlwg bod rhiddyn o dân ymysg y myfyrwyr ifanc, er mor brin oedden nhw. Ymysg y 25-30 yn protestio yn erbyn y toriadau roedd nifer o sgwennwyr i S4C ac un neu ddau arall sy’n dibynnu ar y sianel am eu tamaid. Ro’n i yno i glywed barn y bobol oedd yn pasio heibio am y toriadau sy’n wynebu S4C. Beth drawodd fi oedd mor barod oedd y di-Gymraeg a’r bobol o’r tu hwnt i’r ffin i gefnogi S4C ac i ddweud ei fod yn bwysig i sicrhau dyfodol i’r iaith ond bod y Cymry Cymraeg -y rhai nad oedd yn rhan o’r brotest -yn amharod i ddweud eu dweud. Mae S4C yn dweud eu bod nhw eisiau clywed beth mae pobol eisiau gweld ar S4C. Chawn nhw ddim llawer o lwyddiant os yw pawb yn cadw’n dawel fel maen nhw’n tueddu i wneud pan af fi i siarad â nhw. Beth fydd y sianel yn falch ohono yw’r gefnogaeth hon. Darllen difyr.