Mae llywydd Perpignan, Paul Goze, wedi dweud bod ei glwb mewn trafodaethau gyda chanolwr Cymru a’r Gweilch, James Hook, gyda’r nod o’i ddenu i chwarae yn Ffrainc y tymor nesaf.
Yn ôl adroddiadau ym mhapur L’independant, y Cymro yw’r ffefryn i gael ei arwyddo i chwarae yn safle’r maswr i’r Ffrancwyr.
Mae Hook eisoes wedi dweud ei fod yn ffafrio chwarae yn safle’r maswr, ond mae ei gyfleoedd i’r Gweilch wedi cael eu cyfyngu gan Dan Biggar, yn ogystal â Stephen Jones ar y lefel ryngwladol.
Fe allai’r cyfle o chwarae’n gyson yn y crys rhif deg apelio at Hook sydd hefyd yn cynnal trafodaethau gyda’r Gweilch am gytundeb newydd.
Dywedodd Paul Goze bod y trafodaethau’n datblygu ond cyfaddefodd nad oes dim byd wedi cael ei arwyddo eto.