Mae un o selogion gŵyl Glastonbury yn teimlo’n “flin ac wedi siomi” nad ydi o wedi llwyddo i gael tocyn eleni.
Roedd y tocynnau wedi gwerthu allan mewn ychydig dros bedair awr fore ddoe, wyth awr yn gynt nag ar gyfer gŵyl 2010.
Roedd Steve Mack-Smith wedi bod wrthi am dair awr o flaen y cyfrifiadur yn ceisio cael tocyn, meddai wrth Golwg360.
Mae wedi bod yn mynd yno ers 30 mlynedd, ac mae o nawr yn mynd i orfod trio cael gwaith ar y maes er mwyn gallu mynd y tro yma, dywedodd.
Beio’r BBC
Dywedodd hefyd ei fod yn credu fod yr ŵyl wedi tyfu gormod, ac mai dylanwad y BBC sydd i’w feio am hyn.
Cyn i’r ŵyl gael sylw mawr ar y cyfryngau, roedd yn “datblygu’n organig” meddai, ac roedd yn “hapus” i weld hynny’n digwydd.
“Ond rydw i wedi ei weld yn newid,” meddai.
Erbyn hyn, mae pawb yn gwybod amdani, ac mae torf gwahanol wedi eu denu yno dros y blynyddoedd, meddai.
Beirniadodd y BBC hefyd am greu delwedd o’r ŵyl fel digwyddiad cerddorol yn unig, drwy ganolbwyntio ar ddau neu dri llwyfan yn eu darllediadau.
“Mae cymaint mwy” meddai, mae pebyll yno ar gyfer trafod gwleidyddiaeth, a materion amgylcheddol ac iechyd ac ati, yn ogystal â syrcas, cabaret, a ffair stryd.
Mae’n “wlad wahanol” meddai.
Tocynnau
Roedd y tocynnau wedi mynd ar werth am 9am ddoe dros y ffôn ac ar y rhyngrwyd, ac mae’r trefnwyr, Michael ac Emily Eavis, wedi ymddiheuro i’r rhai wnaeth fethu cael un.
“Mae’n biti nad yw’n bosib gwneud lle ar gyfer pawb sydd eisiau dod,” meddai neges ar eu gwefan.
“Diolch am eich holl gefnogaeth. Rydyn ni’n edrych ymlaen at weld y rheini a gafodd docynnau, fis Mehefin nesaf.”