Mae Peter Whittingham wedi arwyddo cytundeb dwy flynedd newydd gyda Chaerdydd.

Fe fydd y cytundeb yn cadw’r chwaraewr canol cae gyda chlwb y brifddinas tan haf 2013.

Roedd cytundeb presennol Whittingham yn dod i ben ar ddiwedd y tymor hwn a doedd y clwb ddim am golli’r chwaraewr o dan yr un amgylchiadau a Joe Ledley.

Roedd ‘na sïon y byddai Whittingham yn gadael y clwb, ac roedd clybiau o’r Uwch Gynghrair yn ogystal â Nottingham Forest yn y Bencampwriaeth wedi dangos diddordeb.

Ond roedd rheolwr yr Adar Glas, Dave Jones, yn awyddus i gadw’r Sais yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar ôl cyfrannu’n sylweddol i lwyddiant Caerdydd tymor diwethaf.