Mae dau chwaraewr arall wedi tynnu ‘nôl o garfan Cymru ar gyfer y gemau rhagbrofol yn erbyn Bwlgaria a’r Swistir.
Brian Stock o Doncaster a chwaraewr Blackpool, Neal Eardley yw’r chwaraewyr diweddaraf i ddweud y bydden nhw’n absennol ar gyfer gemau cyntaf Brian Flynn wrth y llyw.
Mae’r hyfforddwr dros dro eisoes wedi gorfod gadael Craig Bellamy allan o’i garfan oherwydd ei ffitrwydd.
Mae hefyd wedi colli Rob Earnshaw oherwydd anaf ac fe gyhoeddodd Danny Gabbidon ddoe ei fod yn ymddeol o chwarae ar y lefel rhyngwladol.
Mae Darcy Blake, Neil Taylor, Andrew Crofts a Ryan Doble wedi cael eu hychwanegu at y garfan.