Mae o leiaf 29 o bobol wedi marw yn Indonesia ar ôl i law trwm arwain at lifogydd a tirlithriadau.
Dyddiau ar ôl i’r stormydd ddechrau, mae achubwyr yn dal i frwydro i geisio cyrraedd goroeswyr ym mhentref diarffordd Wasior yn rhanbarth West Papua.
Yn ôl llygaid-dystion roedd pobol yno’n brwydro i ddod o hyd i oroeswyr gan dyllu gyda’u dwylo. Mae cannoedd o dai wedi cael eu dinistrio.
“Fe glywais i sŵn rhuo ac yn sydyn iawn roedd yr afon wedi torri dros y clawdd,” meddai Ira Wanoni o’r pentref gan ddisgrifio’r dilyw a ddigwyddodd ben bore ddoe.
“Cymysgodd dŵr gyda cerrig, mwd a choed … doedd gan y rhan fwyaf o bobol ddim amser i ffoi.”
Gyda nifer o ffyrdd o dan ddŵr roedd hi’n anodd iawn i’r achubwyr gyrraedd yr ardal, oedd hefyd wedi ei effeithio gan ddiffyg trydan a llinellau teleffon wedi torri.
Roedd rhaid symud rhai o’r dros 60 o bobol oedd wedi eu hanafu – nifer ohonyn nhw gyda esgyrn wedi torri – mewn hofrennydd.
Dywedodd llefarydd ar ran Adran Iechyd y wlad bod achubwyr eisoes wedi tynnu 29 corff allan o’r mwd ond bod nifer y meirw yn debygol o gynyddu eto.
Mae tirlithriadau a llifogydd yn lladd degau o bobol yn Indonesia bob blwyddyn, sydd â mwy nag 17,000 o ynysoedd.