Mae’r seiclwraig ifanc o’r Fenni, Becky James wedi cipio ail fedal Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad yn Delhi y bore ma.

Y fedal efydd yn y ras 500m yn y felodrom oedd medal ryngwladol gyntaf y ferch 18 oed ar lefel hŷn, ac roedd wrth ei bodd gyda’i llwyddiant.

“Mae medal efydd yn fy mhencampwriaeth Gemau’r Gymanwlad gyntaf yn anghredadwy,” meddai James wrth y BBC .

“Ro’n i wedi dychmygu’r holl beth ymlaen llaw. Fe ges i ddechrau da o’r giât a mynd o’r fan honno.”

Yn y ras yn erbyn y cloc, llwyddodd James i orffen y ddwy lap o’r felodrom mewn amser o 35.236 eiliad.

Roedd hynny’n ddigon i sicrhau’r fedal efydd iddi’r tu ôl i Anna Meares o Awstralia a orffennodd mewn 33.758 eiliad i gipio’r fedal aur, a Kaarle McCulloch hefyd o Awstralia a enillodd y fedal arian mewn amser o 34.780 eiliad.

(Llun: John Giles/PA)