Methodd y Gweinidog Treftadaeth a chyrraedd Gemau’r Gymanwlad ar gyfer y seremoni agoriadol am nad oedd awyren i fynd a fo, meddai llefarydd.

Roedd Alun Ffred Jones wedi cyrraedd maes awyr Heathrow gydag un o’i swyddogion er mwyn hedfan i Delhi dydd Sadwrn, cyn darganfod bod yr awyren wedi gadael 12 awr ynghynt.

Roedd o i fod i ddychwelyd bore yma ar ôl gwylio’r seremoni agoriadol, cwrdd ag aelodau o Dîm Cymru, a mynychu cyfarfod o weinidogion chwaraeon gwledydd eraill y Gymanwlad.

Fe fyddai hefyd wedi cwrdd ag aelodau o Gyngor Prydain er mwyn trafod cydweithio rhwng Cymru ac India ar brosiectau diwylliannol.

Dywedodd llefarydd ar ei ran mai “camgymeriad clercaidd” oedd yn gyfrifol ac nad oedd Alun Ffred Jones ar fai.

Roedd Llywodraeth y Cynulliad yn “edrych ar beth oedd yn bosib” o ran gyrru’r gweinidog i India yn hwyrach yn yr wythnos, ond roedd ganddo waith i’w wneud ym Mae Caerdydd yr wythnos hon.

Dywedodd Alun Ffred Jones y byddai’n ymddiheuro i Dîm Cymru am fethu a bod yno i’w hannog nhw ymlaen.

“Fe allai hyn fod wedi digwydd i unrhyw un,” meddai arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Kirsty Williams. “Rydw i’n siwr ei fod o’n teimlo’n chwithig, a bod ei swyddogion yn teimlo yr un fath.”