Mae arlywydd Chile wedi dweud fod ei lywodraeth yn “agos iawn” at ryddhau 33 o fwynwyr sydd wedi eu caethiwo o dan y ddaear.

Roedd Sebastian Pinera wedi dweud wrth y mwynwyr na fydden nhw’n debygol o gael eu rhyddhau cyn y Nadolig, ar ôl iddyn nhw gael eu canfod yn fyw ar 22 Awst.

Maen nhw bellach wedi treulio 59 diwrnod o dan y ddaear mewn ystafell fechan ers y chwalfa yn y fwynfa ar 5 Awst. Mae yna gannoedd o bobol yn gweithio er mwyn rhyddhau’r mwynwyr, sydd tua hanner milltir o dan y ddaear.

Yr wythnos diwethaf fe gafodd y dyddiad ei symud i ddiwedd mis Hydref ond erbyn hyn mae disgwyl i’r mwynwyr gael eu rhyddhau erbyn dydd Iau nesaf.

“R’yn ni yn agos iawn at eu rhyddhau nhw, ac rydw i’n gobeithio y bydd o’n bosib eu rhyddhau nhw cyn i fi adael am Ewrop [ar 15 Hydref],” meddai Sebastian Pinera.

“Mae’n bwysig fy mod i’n rhannu’r eiliad yma – nid yn unig gyda’r mwynwyr, ond gyda’u teuluoedd a phawb yn Chile.”

Mae’r mwynwyr hefyd yn paratoi ar gyfer cael eu rhyddhau, a dros y pythefnos diwethaf maen nhw wedi bod yn gyrru unrhyw beth y maen nhw eisiau ei gadw i fyny drwy’r un twll ag y mae eu bwyd a’u diod yn dod i lawr.