Fe drodd gêm bêl-droed gwleidyddol yn Bolivia yn frwnt wrth i Arlywydd y wlad, Evo Morales, daro chwaraewr arall yn ei fan gwan.
Mae fideo o’r gêm yn dangos y chwaraewr yn disgyn i’r llawr ar ôl i Evo Morales gerdded tuag ato a’i daro gyda’i ben glin.
Dywedodd Evo Morales ei fod o wedi ymateb ar ôl i Daniel Gustavo Cartagena ei daclo’n frwnt a rhwygo’r croen ar ei goes dde.
Roedd y tîm arall yn y gêm dydd Sul yn cael ei arwain gan Luis Revilla, maer La Paz. Roedd o’n gyfaill i Evo Morales cyn troi yn ei erbyn yn gynharach eleni.
Daeth y gêm i ben gyda’r sgôr yn gyfartal ar 4-4, ond roedd dau chwaraewr o bob tîm wedi eu hanfon o’r cae.
Cafodd Daniel Gustavo Cartagena ei anfon o’r cae am y dacl beryglus ar yr Arlywydd ac fe gafodd ei arestio ar ôl y gêm, cyn i Luis Revilla ddweud y dylai gael ei ryddhau.
Mae Evo Morales yn gwadu iddo orchymyn i’r heddlu arestio Daniel Gustavo Cartagena. Llwyddodd i osgoi cerdyn coch.
Mae’r arlywydd adain chwith yn boblogaidd yn Bolivia ar ôl cael ei ethol yn 2005. Mae o wedi dweud y bydd o’n sefyll eto yn yr etholiad nesaf yn 2014.