Mae pennaeth asiantaeth ar-lein sy’n amddiffyn plant wedi ymddiswyddo oherwydd bwriad y Llywodraeth i’w dileu hi.
Mae Jim Gamble, prif weithredwr CEOP – y ganolfan sy’n gwarchod plant rhag peryglon cam-fanteisio a bygythiadau ar-lein – yn gwrthwynebu’r bwriad i symud y gwaith i fod yn rhan o Asiantaeth Droseddau Genedlaethol newydd.
Dyw’r cynlluniau “ddim er lles gorau” plant sy’n agored i niwed, meddai neithiwr, ac mae ymgyrchwyr eraill a gwleidyddion Llafur wedi gwrthwynebu’r cynlluniau hefyd.
Yn ôl llefarydd y Blaid Lafur ar faterion cartref, Alan Johnson, fe fydd y newid yn “achosi difrod i rwydweithiau diogelwch plant”.
Fe ddywedodd yr ymgyrchydd Sara Payne, mam i ferch wyth mlwydd oed a gafodd ei llofruddio, ei bod yn “ffieiddio” at gynlluniau’r Llywodraeth.
Amddiffyn y cynlluniau
Ond mae’r Ysgrifennydd Cartref, Theresa May, wedi amddiffyn y bwriad, gan nodi nad oes angen “cwango newydd” ar y wlad er mwyn amddiffyn plant.
Fe ganmolodd hi “waith gwych” Jim Gamble yn Brif Weithredwr CEOP a dymuno’r “gorau iddo ar gyfer y dyfodol”.
Y cefndir
Fe gafodd CEOP ei sefydlu yn 2006 gyda’r dasg o ddal pedoffiliaid ar-lein. Mae’n gysylltiedig ar hyn o bryd gyda SOCA, yr asiantaeth sy’n delio gyda throseddau difrifol a gangiau troseddol.
O dan gynlluniau’r Llywodraeth, bydd yr asiantaeth yn dod yn rhan o Asiantaeth Droseddau Genedlaethol yn 2013.
Llun: Jim Gamble (Gwifren PA)