Fe fydd tlodi ymhlith pensiynwyr yn troi’n argyfwng mawr yng Nghymru yn ôl corff defnyddwyr.
Fe fydd yn waeth byth yn y dyfodol os yw agwedd ddi-hid pobol ifanc at fenthyca arian yn parhau pan fyddan nhw’n hŷn.
Mae ymchwil i Lais Defnyddwyr Cymru yn dangos fod pobl hŷn yn dioddef o ganlyniad i’r dirywiad economaidd, gyda 42% o’r rhai dros 50 yn ei chael hi’n anoddach yn ariannol nag yr oedden nhw flwyddyn yn ôl.
Roedd chwarter (25%) hefyd yn disgwyl i’w sefyllfa ariannol waethygu yn ystod y 12 mis nesaf, gyda threth cyngor a biliau tanwydd yn bryderon amlwg.
‘Gwaethygu’
Mae Llais Defnyddwyr Cymru’n dweud y bydd dyledion a thlodi ymhlith pobol hŷn yn gwaethygu wrth i’r boblogaeth heneiddio a gorfod byw ar lai na’r disgwyl.
Un o’r pryderon yw bod pobol hŷn heb ddigon o sgiliau ariannol ac mae’r corff wedi galw ar Lywodraeth y Cynulliad i drefnu addysg yn y maes.
Ond mae’r adroddiad sy’n cael ei gyhoeddi heddiw hefyd yn tynnu sylw at bryder mwy hyn y dyfodol.
“Yn y pen draw, gallai agweddau pobol ifanc tuag at fenthyca yn eu henaint arwain at argyfwng dyled mwy nag erioed o’r blaen ymhlith pobol wedi ymddeol,” meddai.
Argymhellion …
Dyma rai o’r argymhellion eraill:
• Fe ddylai cyflenwyr ynni orfod darparu cymorth cymdeithasol i aelwydydd sy’n gymwys i gael taliadau tywydd oer.
• Mae’n galw ar fanciau i godi ymwybyddiaeth o’r angen i gynllunio ar gyfer ymddeol, ac am hyrwyddo undebau credyd er mwyn lleihau apêl benthyca ar garreg y drws.
• Cyn torri ar wario ar gyngor dyledion, mae angen ystyried pa ddarpariaeth arall sydd ar gael.
‘Rhybudd’ meddai’r Cyfarwyddwr
“Mae’r adroddiad hwn yn rhybudd i’r genhedlaeth sy’n meddwl am ymddeol o’r gwaith – ac i unrhyw un sy’n gobeithio ymddeol yn y dyfodol,” meddai Cyfarwyddwr Llais Defnyddwyr Cymru Maria Battle. “Rydym ar fin gweld newid mawr yn statws ariannol pobol sy’n ymddeol.”
Llun: Pensiynwyr yn ymgyrchu tros eu hawliau (Gwefan NPC)