Roedd sgwad Cymru yn Stadiwm Dinas Caerdydd neithiwr i weld y cefnwr chwith, Gareth Bale, yn cael ei ddewis yn Chwaraewr y Tymor yng Nghymru.
Mae chwaraewr Tottenham Hotspur wedi cael tymor ardderchog, gyda pherfformiadau ardderchog i’w wlad yn ogystal â’i glwb.
Yn ddiweddar, fe ddywedodd ei reolwr yn Spurs, Harry Redknapp, mai Bale yw’r chwaraewr ochr chwith gorau yn yr Uwch Gynghrair i gyd.
‘Wrth ei fodd’
Fe ddywedodd Gareth Bale ei fod “wrth ei fodd” yn derbyn y wobr sydd wedi eu hennill gan rai o gewri pêl-droed Cymru yn yr 20 mlynedd ers dechrau ei rhoi.
Ymhlith ei uchafbwyntiau ef, meddai, roedd sgorio’r goliau allweddol i ennill gemau clwb yn erbyn Chelsea ac Arsenal.
Dim ond 21 oed yw Gareth Bale, a gafodd ei eni a’i fagu yng Nghaerdydd. Fe ddaeth i’r amlwg gyda Southampton cyn ymuno â Spurs.
Gwobrau i Ramsey a Williams hefyd
Chwaraewr canol cae Arsenal, Aaaron Ramsey, a gafodd wobr y Chwaraewr Ifanc ac fe gafodd y tlws ei dderbyn ar ei ran gan reolwr tros-dro Cymru, Brian Flynn, sydd wedi meithrin y Cymro ifanc yn y tîm dan 21 oed.
Ashley Williams, amddiffynnwr a chapten Abertawe, a gafodd wobr Chwaraewr Clwb y Flwyddyn yn y seremoni sydd bellach yn cael ei noddi gan gwmni cwrw Brains.