Gweriniaethwyr anfodlon yng Ngogledd Iwerddon sy’n cael y bai am ymosodiad bom car yn gynnar heddiw.
Chafodd neb eu hanafu yn y ffrwydrad yn Derry ond mae llawer o siopau a swyddfeydd wedi cael eu difrodi.
Fe gafodd y bom ei gadael mewn Vauxhall Corsa ac fe ffrwydrodd ar ôl rhybudd ffôn awr yn gynharach.
Mae’r difrod gwaethaf i’w weld i’r Ulster Bank a gwesty a bwyty Da Vinci sydd gerllaw.
Fe fu’n rhaid symud trigolion o gartref nyrsio a thai gerllaw cyn y ffrwydrad a ddigwyddodd toc wedi hanner nos.
Pryder am y bomiau
Ddau fis yn ôl, fe gafodd bom car 200 pwys ei ffrwydro y tu allan i orsaf heddlu hanner milltir i ffwrdd yn Strand Road. Fe gafodd yr un grŵp o weriniaethwyr eu beio am yr ymosodiad hwnnw.
Yn dilyn bomio heddiw, mae Heddlu Gogledd Iwerddon wedi rhybuddio y bydd tagfeydd traffig trwm yn y ddinas oherwydd trefniadau diogelwch.
Ddoe, roedd penaethiaid heddlu wedi mynegi pryder mawr am yr amrywiaeth o dechnegau gwneud bomiau sydd bellach yn cael eu defnyddio gan y grwpiau gweriniaethol ymylol.
Llun: Derry (Colman Huge CCA3.0)