Mae’r Prif Weinidog wedi amddiffyn y bwriad i atal budd-dal plant i bobol sy’n talu’r lefel uchaf o dreth incwm.
Roedd angen gweithredu er mwyn torri’r diffyg economaidd, meddai, gan bwysleisio mai dyna fyddai dadl y Ceidwadwyr yn etholiadau’r Cynulliad hefyd.
“Y dewis arall yw gohirio’r penderfyniadau,” meddai David Cameron wrth Radio Wales. “R’yn ni i gyd yn gwybod o’n dyledion ein hunain, dyw pethau ddim yn gwella, mae’r llog yn codi ac fe fyddai’n rhaid i’r toriadau fod yn ddyfnach byth.”
Roedd yn cydnabod y byddai teulu gydag un trethdalwr uchel yn colli’r budd-dal ond y gallai cyplau sy’n ennill mwy o arian rhyngddyn nhw ei gadw. Ond roedd yr un math o anghysondeb yn y system drethi beth bynnag.
Mae’n debyg o wynebu cwestiynau caled ar yr un pwnc yng nghynhadledd y Ceidwadwyr ym Mirmingham heddiw – mae nifer o wleidyddion a phapurau newydd eisoes wedi ymosod ar y polisi newydd.
‘Caled ond teg’
“Rhaid i ni ddisgwyl i bobol well eu byd gymryd eu siâr o’r baich,” meddai mewn cyfweliad gyda’r gohebydd, David Cornock. “Fe fydd y budd-dal yn cael ei gadw i 85% o bobol. Mae’n benderfyniad caled i’w wneud, ond mae’n deg.”
Fe fyddai’n rhaid defnyddio’r un math o ddadleuon yn ystod etholiadau’r Cynulliad, meddai wedyn, gan ddweud y byddai’n dod i Gymru i ymgyrchu.
“Dw i’n credu y bydd rhaid i ni ddadlau’r achos yng Nghymru ei bod yn iawn i ddelio gyda’r diffyg economaidd a’i bod yn iawn i wneud hynny ar unwaith.”
Llun: David Cameron (Gwifren PA)