Mae elw’r cwmni archfarchnadoedd Tesco wedi llamu eto, er gwaetha’ perfformiad “cymharol araf” yng ngwledydd Prydain.

Fe gododd elw’r grŵp cyfan cyn treth o bron £1.6 biliwn yn ystod chwe mis cynta’ eleni. Mae hynny’n gynnydd o 12.5% o’i gymharu â llynedd.

Fe gododd lefel gwerthiant y siopau i bron £30 biliwn, sy’n gynnydd o fwy na 7%, gyda’r llwyddiant mwya’ yn Asia.

Yn ôl Cadeirydd y grŵp, Terry Leahy, roedd gwledydd Prydain yn dal i deimlo sgil effeithiau’r argyfwng economaidd, gyda phris tanwydd yn cyfrannu at arafwch y twf yno.

Tesco yw trydydd cwmni siopa mwya’r byd, gyda bron 5,000 o siopau mewn 14 o wledydd.

Llun: Tesco Wrecsam (360)