Fe fydd yna alaru yn Albania heddiw ar ôl marwolaeth y digrifwr Norman Wisdom.

Pan oedd wedi ei anghofio i raddau yng ngwledydd Prydain, fe barhaodd y dyn bach â’r cap stabal yn boblogaidd iawn yn y wlad Gomiwnyddol.

Ar un adeg, dim ond ei ffilmiau ef oedd yn cael eu caniatáu yno ac fe gafodd groeso mawr ar ymweliadau â’r wlad – un tro, fe gafodd fwy o sylw na David Beckham a thîm pêl-droed Lloegr.

Yn ei anterth, yn yr 1950au,, roedd ei ffilmiau’n boblogaidd iawn gartref hefyd, gyda’i gymeriad anlwcus Norman Pitkin yn llenwi sinemâu.

Slapstic

Ac yntau’n ddim ond 5’ 4”, roedd yn cael ei ystyried yn un o’r digrifwyr slapstic gorau a mwyaf annwyl ac roedd yna apêl blentynnaidd bron yn ei wên fawr a’i lygaid direidus.

Roedd wedi cael magwraeth galed yn Llundain cyn dechrau ym maes adloniant yn union wedi’r rhyfel. Tua diwedd ei yrfa, fe gafodd ganmoliaeth am ei allu actio hefyd ac fe gafodd ei wneud yn farchog.

Yn ystod un ymweliad ag Albania, lle bu’n gwneud gwaith elusennol hefyd, fe ddywedodd: “Dwn i ddim pam fy mod i mor boblogaidd fan hyn. Mae’n rhaid eu bod nhw’n wallgo.”

Roedd yn 95 oed ac yn byw mewn cartref nyrsio yn Ynys Manaw.

Llun: Norman Wisdom yn ei 80au (Gwifren PA)