Mae rhywfaint o ddirgelwch tros farwolaeth hyd ast wyth o bobol mewn ymosodiad gan yr Unol Daleithiau ym Mhacistan.
Yn ôl swyddogion lleol, fe gafodd y gwrthryfelwr eu lladd mewn cyrch gan awyren ddi-beilot yn erbyn tŷ yng Ngogledd Waziristan yng ngogledd-orllewin y wlad.
Mae’n ymddangos bod y meirw’n cynnwys pump o bobol gyda phasports Almaenig – yn ôl dau o’r swyddogion, roedden nhw ym Mhacistan i gael hyfforddiant gan derfysgwyr.
Yn ôl eu harfer, dyw’r Americaniaid ddim wedi rhoi unrhyw wybodaeth am darged yr ymosodiad.
Llun: Awyren ddi-beilot (Cyhoeddus)