Mae’r Prif Swyddog Meddygol wedi galw ar i Gymru gael yr hawl i gyflwyno rheolau llymach ar alcohol, gan gynnwys gosod pris isaf am bob uned.

Fe fydd adroddiad blynyddol Dr Tony Jewell, sy’n cael ei gyhoeddi yn hwyrach yn yr wythnos yn dangos bod llawer o bobol yn parhau i yfed gormod.

Mae’n dweud bod 45% o oedolion yn yfed mwy na’r lefel sy’n cael ei argymell – yn ystod 2008-09, fe gafodd mwy nag 16,000 o bobol eu hanfon at asiantaethau sy’n trin camddefnydd o alcohol.

Mae’r rheiny sy’n yfed gormod yn rheolaidd mewn perygl o ddioddef canser y geg, y gwddf, y fron neu’r llwnc yn ogystal â phwysau gwaed uchel neu sirosis yr afu, meddai.

Eisoes eleni, fe ddywedodd Tony Jewell na ddylai plant dan 15 oed yfed o gwbl – mae alcohol yn gallu effeithio ar ddatblygiad plant ac yn eu gwneud yn fwy tebygol o yfed yn drwm wedyn, meddai.

Hyd yma, mae’r Llywodraeth yn Llundain wedi gwrthod y syniad o ddatganoli’r grymoedd i Gymru.

Alcohol – yr ystadegau

• Mae 45% o oedolion yng Nghymru yn yfed mwy na’r lefel diogela hynny o leiaf unwaith yr wythnos.

• Mae mwy na chwarter y rheiny’n cael pyliau o yfed yn drwm iawn bob wythnos.

• Mae rhwng 3% a 5% o achosion o golli gwaith yn ymwneud ag alcohol.

• Mae alcohol yn achosi tua 1,000 o farwolaethau bob blwyddyn yng Nghymru.

• Mae bron hanner yr achosion o drais yn gysylltiedig ag alcohol.

• Mae camddefnyddio alcohol yn costio rhwng £70 miliwn ac £85 miliwn i’r Gwasanaeth Iechyd bob blwyddyn mewn triniaeth ac ymweliadau ag unedau damwain ac argyfwng.

Sylwadau Tony Jewell

“Dw i a Phrif Swyddogion Meddygol eraill y Deyrnas Unedig, Cymdeithas Feddygol Prydain a NICE wedi galw am bennu isafswm pris ac rydyn ni wedi tynnu sylw at y cysylltiad rhwng prisiau isel ac yfed gormod o alcohol,” meddai Dr Tony Jewell.

“Dw i’n croesawu’r ffaith bod Llywodraeth San Steffan wedi dweud eu bod am gymryd camau i ddatrys y problemau hyn, ond dw i’n cefnogi cais Gweinidog Iechyd Cymru am ddatganoli’r pwerau i reoli gwerthiant alcohol mewn archfarchnadoedd, siopau trwyddedig, tafarndai a chlybiau.

Llun Gwifren PA)