Mae’r Llywodraeth yn dod dan bwysau i newid eu cynlluniau tros fudd-dal plant – lai na diwrnod ar ôl eu cyhoeddi gan y Canghellor George Osborne.

Mae rhai sylwebyddion yn cymharu’r polisi i’r dreth 10% a achosodd drafferthion anferth i Lywodraeth Lafur Gordon Brown.

Mae gwleidyddion Ceidwadol, papurau asgell dde a chorff ymchwil wedi beirniadu’r penderfyniad i atal budd-dal plant i bobol sy’n ennill mwy na £43,875 y flwyddyn.

Neithiwr, fe gyfaddefodd y Gweinidog Plant, Tim Loughton, y byddai’n rhaid iddyn nhw edrych eto ar rai o’r manylion ac y gallen nhw newid y trothwy.

Cosbi mamau?

Y brif feirniadaeth, gan rai fel corff ymchwil yr IFS yw y gallai’r newid gosbi mamau dosbarth canol sy’n dewis aros gartre’ yn hytrach na mynd i weithio.

Os bydd un person mewn teulu yn ennill mwy na’r trothwy, fydd dim budd-dal; ond os oes gŵr a gwraig yn ennill mymryn yn llai ill dau, fe fyddan nhw’n parhau i’w dderbyn.

Yn ôl pennawd y Daily Telegraph, fe fydd “mamau-aros-gartref” yn cael eu taro ac mae’r cyn ymgeisydd am yr arweinyddiaeth, David Davis, wedi mynegi sylwadau tebyg.

‘Dadfeilio’

Yn ôl Yvette Cooper, llefarydd gwaith a phensiynau’r Blaid Lafur, mae polisi budd-daliadau’r Llywodraeth eisoes yn dadfeilio.

Fe fydd rhaid i’r Prif Weinidog, David Cameron, ateb cwestiynau ar y mater heddiw – mewn cyfweliadau gyda’r cyfryngau ac yna yng nghynhadledd y Ceidwadwyr ym Mirmingham.

Llun: George Osborne (Gwifren PA)