Roedd Almaenwyr ymysg gwrthryfelwyr gafodd eu lladd gan daflegryn ger ffin Afghanistan, yn ôl swyddogion cudd-wybodaeth Pacistan.
Dywedodd y swyddogion bod y taflegrau, gafodd ei saethu gan yr Unol Daleithiau, wedi taro tŷ yn nhref Mir Ali yn rhanbarth Gogledd Waziristan.
Y gred yw bod yr Almaenwyr wedi mynd i Bacistan er mwyn hyfforddi i fod yn derfysgwyr. Mae targedu pobol sydd wedi mynd i Bacistan o wledydd yn y Gorllewin yn anghyffredin.
Dyw awdurdodau’r Unol Daleithiau ddim fel arfer yn datgelu pwy y maen nhw yn eu targedu yn ystod ymgyrch taflegrau’r CIA.
Daw’r adroddiadau o Bacistan ar ôl i’r Swyddfa Dramor rybuddio dinasyddion Prydain fod yna beryg uwch o ymosodiad terfysgol yn yr Almaen a Ffrainc ar hyn o bryd.
Mae llywodraeth yr Unol Daleithiau hefyd wedi rhybuddio dinasyddion i fod yn ofalus, ar ôl adroddiadau bod al-Qaida yn cynllunio ymosodiad yn Ewrop.
Mae’n debyg bod y pryderon wedi codi yn sgil adroddiadau fod yna ddinasyddion o Ewrop wedi bod yn cynllunio i ymosod ar eu gwledydd ei hunain ar ôl hyfforddi yng ngogledd Pacistan.