Mae ysgolion a cholegau addysg uwch yng Nghymru yn mynd i gael y grym i “sgrinio a “chwilio” unrhyw ddisgybl am arfau.

Fe fydd yr hawliau newydd yn dod i rym ar 31 Hydref, ar ôl i’r Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, lofnodi gorchymyn heddiw.

Yn ôl y gweinidog, roedd Llywodraeth y Cynulliad wedi cael sêl bendith y cyhoedd mewn ymgynghoriad – ‘Ymddygiad mewn Ysgolion: Dulliau Diogel ac Effeithiol o Ymyrryd.’

“Cafwyd cryn gefnogaeth i’r pwerau newydd yma”, honnodd. “Mae’n bwysig cael ysgolion a cholegau diogel er mwyn sicrhau’r amgylchedd addysgol gorau posibl i’n pobl ifanc ni.

“Y cam nesaf yw sicrhau bod colegau ac ysgolion yn deall y pwerau newydd a sut i’w defnyddio. Fe fydd canllawiau’n cael eu cyhoeddi i’r perwyl hwnnw ddiwedd mis Hydref.”