Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi beirniadu Llywodraeth y Cynulliad am fethu â manteisio mwy ar gyfleoedd busnes gyda’r Gêmau Olympaidd.
Mae’r blaid yn honni mai dim ond £570,000 o arian cytundebau sydd wedi dod i fusnesau Cymreig hyd yn hyn – a hynny’n cymharu â £17 miliwn i fusnesau yng Ngogledd Iwerddon, a £22 miliwn i fusnesau yn yr Alban.
Mae’r blaid hefyd yn honni fod cais rhyddid gwybodaeth ganddyn nhw’n dangos nad oes unrhyw gyfathrebu ysgrifenedig wedi digwydd rhwng gweinidogion Cymreig ac Awdurdod y Gêmau.
Dywedodd llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol ar Ddatblygu Economaidd, Jenny Randerson AC, ei bod wedi synnu’n fawr.
“Pam nad yw Gweinidogion wedi ysgrifennu at yr Arglwydd Coe [Cadeirydd Pwyllgor y Gêmau] fel y mae’r Gweinidog dros Fenter yng Ngogledd Iwerddon wedi gwneud?” gofynnodd.
“Fe ddylai fod yn flaenoriaeth i weinidogion i helpu i ennill cytundebau Olympaidd, ond mae’n ymddangos nad yw Llywodraeth Llafur/Plaid yn gwneud safiad dros Gymru.”