Mae amddiffynnwr Cymru a West Ham, Danny Gabbidon, wedi ymddeol o bêl-droed rhyngwladol.

Fe ddaw ei gyhoeddiad ychydig ddyddiau ar ôl cael ei ddewis yng ngharfan Brian Flynn ar gyfer gemau rhagbrofol Cymru yn erbyn Bwlgaria a’r Swistir.

Fe enillodd Gabbidon 43 cap dros ei wlad ers chwarae am y tro cyntaf yn erbyn y Weriniaeth Tsiec yn 2002.

Ond mae gyrfa’r Cymro wedi cael ei ddistrywio gyda chyfres o anafiadau sydd wedi cyfyngu ar ei gyfle i chwarae dros y blynyddoedd diwethaf.

Fe ddaeth ei gap olaf yn erbyn yr Alban ym mis Tachwedd llynedd. Roedd wedi cael ei gynnwys yng ngharfan Cymru i wynebu Montenegro’r mis diwethaf ond bu raid iddo dynnu’n ôl gydag anaf arall.

Gabbidon yn diolch

Dyma ddywedodd yr amddiffynnwr wrth wneud ei gyhoeddiad:

“Wedi naw mlynedd wych o chwarae pêl-droed rhyngwladol i Gymru yn ogystal â chael y cyfle i fod yn gapten ar y tîm, rwyf wedi penderfynu ymddeol ar ôl ystyried yn helaeth,” meddai Gabbidon.

“Ar nodyn personol fe hoffwn i ddiolch i Gymdeithas Bêl-droed Cymru am eu cefnogaeth dros y blynyddoedd ac fe hoffwn i ddiolch i bobol Cymru am fy nghefnogi i a fy nghyd chwaraewyr ym mhob gêm.

“Rwyf hefyd am ddiolch i fy nheulu, ffrindiau a’r tîm rheoli sydd wedi fy nghefnogi trwy nifer o amserau da a rhai adegau gwael. Mae wedi bod yn daith anhygoel.”