Mae rheolwr Bangor, Nev Powell wedi cael ei enwi’n rheolwr y mis yn Uwch Gynghrair Cymru yn dilyn dechrau perffaith ei glwb i’r tymor newydd.

Mae Bangor wedi ennill pob un o’u gêmau ym mis Awst a Medi. Enillodd y clwb eu hwythfed gêm yn olynol yn erbyn y Seintiau Newydd dros y penwythnos.

Roedd Bangor eisoes wedi curo Castell-nedd, Llanelli, Airbus UK, Aberystwyth, Y Bala, Caerfyrddin a Phort Talbot.

Mae eu buddugoliaeth 4-3 yn erbyn y Seintiau Newydd ddydd Sadwrn diwethaf wedi cynyddu eu mantais ar frig y tabl i ddeg pwynt.