Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru yn rhybuddio pobol i gadw’n gynnes dros y gaeaf, wrth i’w adran baratoi i gyhoeddi adroddiad sy’n dangos cynnydd mawr mewn marwolaethau adeg gaeaf y llynedd.

Dylai pobol hŷn a phobol sydd ag anhwylderau hirdymor gymryd gofal neilltuol, yn ôl Dr Tony Jewell.

Fe fydd yr adroddiad, sy’n cael ei gyhoeddi yn ddiweddarach yr wythnos hon, yn dweud bod “cynnydd sylweddol” yn nifer y marwolaethau a ddigwyddodd yn sgil effeithiau’r tywydd oer.

Yr amcangyfrif yw bod 2,500 o farwolaethau ychwanegol wedi digwydd yng Nghymru dros y cyfnod, sy’n gynnydd o 74% o’i gymharu â’r flwyddyn cyn hynny.

Dros 75

Bydd Dr Jewell yn dweud yn yr adroddiad mai pobol dros 75 sy’n fwyaf tebygol o fynd yn sâl pan mae’r tymheredd yn dechrau gostwng.

Mae hyn yn bennaf yn sgil y straen y gall yr oerfel ei achosi ar y galon a’r system waed, sy’n gallu arwain at broblemau gyda chlefyd y galon, strôc neu heintiau ar y frest.

Bydd hefyd yn annog pobl dros 65 oed a phobol sydd mewn peryg o ddal y ffliw dros y gaeaf i amddiffyn eu hunain trwy gael eu brechu, ac i baratoi ar gyfer cadw’u hunain yn gynnes.

Tlodi

Bydd yr adroddiad hefyd yn tynnu sylw at bobol sy’n methu â thalu am danwydd i’w cadw’n gynnes ynghyd â hanfodion byw eraill.

Fe fydd yn galw ar Lywodraeth y Cynulliad; Llywodraeth San Steffan a chyflenwyr ynni i gydweithio â byrddau iechyd lleol a’r sector gwirfoddol i fynd i’r afael â’r broblem.

Fe fydd hefyd yn annog pobol i fanteisio ar y grantiau a’r cynlluniau sydd ar gael ar gyfer cadw cartrefi’n gynnes.