Mae trigolion Aberhonddu yn mynd i gael y cyfle i roi eu barn yn fuan ar gynllun ar gyfer cerflun o gerddor oedd â chysylltiad agos â Gŵyl Jazz enwog y dref.
Bydd y model o gerflun arfaethedig George Melly yn cael ei arddangos yn ystod Wythnos Gelfyddydau Aberhonddu, ddiwedd mis Hydref.
Ei weddw, Diana, fydd yn dadorchuddio’r cynllun yn Eglwys y Santes Fair ddydd Gwener 29 Hydref ac fe fydd y cyhoedd yn cael cyfle i roi eu sylwadau am y gwaith.
Yr artist yw Bruce Williams, sydd eisoes wedi creu gweithiau celfyddyd gyhoeddus ar gyfer enwogion megis Oscar Wilde a Tony Hancock.
Codi arian
Fydd y cerflun ei hun ddim yn cael ei greu nes y bydd digon o arian yn cael ei gasglu, ac mae’r apêl yn cynnal arwerthiant yn yr eglwys yr un noson.
Ymhlith yr eitemau ar werth bydd gwaith gan Tim Davies, yr arlunydd sy’n cynrychioli Cymru yng ngŵyl Biennale Fenis 2011.
Artistiaid cenedlaethol eraill i gynnig gwaith yw Sue Williams, a gafodd ei henwebu ar gyfer Gwobr Artesmundi 2006, a Lowri Davies, enillydd medal aur yr Eisteddfod Genedlaethol mewn Crefft.
Fe fydd gwaith arlunwyr eraill lleol yno hefyd, megis Robert Macdonald, Matthew Tomalin, Pamela Rawnsley a Megan Jones.
George Melly
George Melly oedd y cerddor cyntaf i dderbyn cytundeb gyda Gŵyl Jazz Aberhonddu pan sefydlwyd y digwyddiad yn 1984. Yn dilyn hynny, fe fu’n berfformiwr a chefnogwr cyson o’r ŵyl, a bu’n llywydd yn 1991.
Am fwy o’i hanes, ymwelwch â gwefan Apêl Cronfa George Melly: http://www.georgemellysculpture.org.uk/cy
Mae Gŵyl Gelfyddyd Aberhonddu yn cael ei chynnal rhwng 23 a 31 Hydref.