Mae’r Dirprwy Weinidog dros Dai ac Adfywio, Jocelyn Davies, wedi cymeradwyo rhoi £700,000 ar gyfer dymchwel a gwaith tirlunio ar hen safle maes pêl-droed Y Vetch yn Abertawe heddiw.

Dyma fyddai diwedd y cam cyntaf ar gyfer datblygu tai fforddiadwy a mannau gwyrdd yn yr ardal.

Fe fydd y pecyn cyllid ar gyfer y gwaith dymchwel nawr yn mynd i Gabinet Cyngor Abertawe am eu cefnogaeth.
Barn y Gweinidog

“Er y bydd dymchwel y Vetch yn ddiwrnod trist i rai, mae’r safle wedi bod yn adfail i bob pwrpas ers i’r Elyrch symud i’w cartref newydd gwych yn Stadiwm Liberty,” meddai’r Dirprwy Weinidog.

“Mae’r gost o ddymchwel y safle hyd yma wedi atal y tir rhag cael ei ddefnyddio a’i ail ddatblygu ar gyfer tai fforddiadwy a mannau gwyrdd yn yr ardal.”

“Felly, dw i wrth fy modd yn meddwl y bydd yr arian yr wyf wedi’i gyhoeddi heddiw yn nodi’r cam cyntaf at greu cyfleusterau newydd sy’n hanfodol.”

Barn y Cyngor

“Mae hyn yn newyddion calonogol iawn i safle’r Vetch sydd wedi bod yn segur am nifer o flynyddoedd ac fe fydd ei ddymchwel yn helpu i gychwyn y broses ailddatblygu,” meddai’r Cynghorydd Chris Holley, Arweinydd Cyngor Abertawe.

“Mae gan y Vetch hanes – ond mae’r amser wedi dod i edrych i’r dyfodol, ac, os bydd y cyllid yn cael ei gefnogi gan y Cabinet, bydd hwn yn gam mawr yn y cyfeiriad cywir,” dywedodd.

“Mae wedi bod yn uchelgais i ni ers tipyn i ailddatblygu safle’r Vetch a chyda’r arian hwn gallwn weithio gyda’n partneriaid yn Llywodraeth Cynulliad Cymru i adfywio’r lleoliad allweddol hwn sy’n agos at ganol dinas Abertawe,” meddai’r Cynghorydd Gareth Sullivan, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Adfywio Economaidd a Chynllunio.