Fe fydd cwmni telecom, BT, yn lansio arolwg cenedlaethol er mwyn deall lle mae’r galw cryfaf am wasanaethau band eang cyflym.
Po fwya’r galw, mwya’ tebygol yw ardal o gael y gwasanaeth newydd ond mae rhai beirniaid wedi rhybuddio y gallai ardaloedd gwledig ddiodde’.
Nod yr astudiaeth – y gyntaf o’i bath – yw helpu’r cwmni i ddatblygu eu cynlluniau buddsoddi.
“Rydym yn awyddus i glywed gan drefi a phentrefi ledled y DU i helpu dylanwadu ar gynlluniau BT yn y dyfodol,” meddai Gavin Patterson, Prif Weithredwr manwerthu BT.
Pedwar miliwn o fewn blwyddyn
Mae BT wedi dweud y bydd band eang cyflym iawn o fewn cyrraedd i bedwar miliwn o adeiladu erbyn diwedd y flwyddyn.
Ond, fe fydd angen cyrraedd mwy na 12 miliwn yn rhagor o swyddfeydd er mwyn cyrraedd y targed o gyflwyno’r dechnoleg band eang i ddwy ran o dair o’r Deyrnas Unedig erbyn 2015.
Mae’r Llywodraeth yn Llundain wedi cefnogi’r bwriad i ymestyn y gwasanaeth.
“Pan fydda’ i’n teithio o amgylch y DU dw i’n clywed yr un neges – fod pobol eisiau gallu defnyddio band eang cyflym yn eu cymunedau,” meddai’r gweinidog Cyfathrebu Ed Vaizey.