Mae Toshiba yn dweud eu bod nhw wedi creu teledu 3D ar gyfer pobol sydd ddim yn hoffi gwisgo sbectols.
Heddiw fe ddatguddiodd y cwmni o Tokyo deledu manylder uwch 3D gan ddweud na fyddai’n rhaid i wylwyr wisgo sbectols arbennig i’w wylio.
Gorfod gwisgo’r sbectols swmpus yw un o gwynion mwyaf cwsmeriaid am y dechnoleg newydd.
Ymysg yr anfanteision yw’r ffaith y bydd rhaid i wylwyr fod yn agos iawn at y setiau teledu er mwyn i’r effaith 3D weithio, ac fe fydden nhw’n costio mwy na setiau teledu 3D sydd angen y sbectols.
Dim ond 20 modfedd o led fydd y setiau teledu ar eu mwyaf, a bydd rhaid i’r gwyliwr eistedd o fewn 90cm o’r sgrin.
Mae’r rhan fwyaf o setiau teledu 3D yn dibynnu ar sbectols er mwyn gyrru darlun gwahanol i’r ddau lygad, sy’n creu’r argraff bod yna ddyfnder i’r llun.
Ond mae teledu newydd Toshiba yn defnyddio “llen corbysog perpendicwlar”, sy’n cyfeirio golau i naw man gwahanol o flaen y teledu.
Os ydi’r gwyliwr yn eistedd yn y lle iawn o flaen y teledu fe fydd ei ymennydd yn cyfuno’r pwyntiau yma i mewn i ddelwedd 3D.
Mae’r sustem yn un tebyg i’r cyfrifiadur llaw Nintendo 3DS, y cyfrifiadur 3D cyntaf fydd ddim yn gofyn am sbectols 3D.
Fe fydd y setiau teledu yn mynd ar werth yn Japan adeg y Nadolig. Fe fydd y setiau mwyaf yn costio tua £2,000.