Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones wedi talu teyrnged i’r timau a threfnwyr y Cwpan Ryder yn dilyn diwedd dramatig i’r gystadleuaeth.

Ond mae hefyd wedi rhybuddio bod angen gwaith caled i wneud yn siŵr bod Cymru’n manteisio’n llawn ar y digwyddiad.

Fe fu Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, hefyd yn llongyfarch Syr Terry Matthews a staff y Celtic Manor am sicrhau cystadleuaeth “fythgofiadwy”.

Fe enillodd Ewrop 14.5 i 13.5 ar ôl i’r gŵr o Ogledd Iwerddon, Graeme McDowell, guro Hunter Mahan yn y gêm olaf.

Dyma oedd y tro cyntaf yn hanes y Cwpan Ryder i’r chwarae barhau am bedwerydd diwrnod, ar ôl i law trwm dros y penwythnos amharu ar y chwarae.

Ymateb Carwyn Jones

“Llongyfarchiadau mawr i Ewrop am weithio mor galed i sicrhau’r fuddugoliaeth. Dros y pedwar diwrnod diwethaf yma yng Ngwesty Hamdden y Celtic Manor, rydym wedi gweld golff o’r safon uchaf un ac ar ôl rownd derfynol gyffrous iawn, Ewrop yw’r enillwyr haeddiannol iawn,” meddai Carwyn Jones.

“Er gwaethaf y glaw trwm, mae’r ymwelwyr wedi bod yn hynod o frwdfrydig. Hoffwn ddiolch yn fawr i bawb sydd wedi trefnu a chymryd rhan yn y gystadleuaeth hon.

“Hefyd, mae’r wythnos diwethaf yma wedi’n cynorthwyo i godi proffil Cymru yn rhyngwladol, nid yn unig ymysg y rheiny sydd wedi teithio i’r Celtic Manor ond ymysg y rheiny ar hyd a lled y byd sydd wedi bod yn gwylio’r gystadleuaeth ar y teledu”

“Mae llygaid y byd chwaraeon wedi bod arnon ni ac mae wedi bod yn gyfle gwych i werthu Cymru i’r byd. Heb amheuaeth, mae Cymru wedi bod ar y map yr wythnos hon a nawr, mae’n rhaid i ni weithio’n galed i fanteisio i’r eithaf ar hyn ac i gadw proffil Cymru’n uchel.”

‘Diolch Syr Terry’, meddai Gillan

“Wedi naw mlynedd o baratoi, doedd cyfwerth hanner mis o law yn disgyn mewn 48 awr ddim wedi atal brwdfrydedd a’r ysbryd a ddangoswyd yn y Celtic Manor ar gyfer y Cwpan Ryder Cymreig gyntaf,” meddai Cheryl Gillan.

“Rwy’n siŵr bod y chwaraewyr a’r miloedd o gefnogwyr oedd wedi teithio ar draws y byd i wylio’r gystadleuaeth wedi mwynhau’r croeso Cymreig gorau ac yn dychwelyd adref gydag atgofion melys.”