Mae Ewrop wedi ennill y Cwpan Ryder o 14.5 pwynt i 13.5 ar ôl i’r gystadleuaeth gael ei phenderfynu yn gêm senglau olaf y dydd yn y Celtic Manor.

Fe faeddodd Graeme McDowell yr Americanwr Hunter Mahan ar dwll 17 ar ôl mynd dau ergyd ar y blaen gyda dim ond un twll ar ôl i’w chwarae.

Ar ôl colli y rhan fwyaf o ddydd Gwener a dydd Sul i law roedd hi’n haul braf heddiw wrth i’r Cwpan Ryder gael ei chwarae ar y dydd Llun am y tro cyntaf yn ei hanes 83 mlynedd.

Fe ddechreuodd Ewrop y diwrnod olaf ar y blaen 9.5 i 6.5. Ond fe enillodd Steve Stricker yn erbyn Lee Westwood yn y gêm agoriadol i leihau’r bwlch i ddau bwynt.

Fe gafodd y gêm rhwng Rory McIlroy a Stewart Cink ei haneru er mwyn cynnal mantais Ewrop.

Ond fe gynyddodd tîm Colin Mongomerie eu mantais 11 i 7 pan enillodd Luke Donald yn
erbyn Jim Furyk cyn i Dustin Johnson ennill y gêm nesaf i’r Unol Daleithiau.

Fe wnaeth Ian Poulter sicrhau pwynt arall i Ewrop cyn i’r Americanwr, Jeff Overton guro Ross Fisher. Fe gynyddodd Migeul Angel Jimenez mantais Ewrop gyda buddugoliaeth yn erbyn Bubba Watson.

Ond fe ddechreuodd yr Unol Daleithiau daro ‘nôl wrth i Tiger Woods yn ennill ei gêm ef, cyn i’r gêm rhwng Edoardo Molinari a Ricky Fowler gael ei haneru.

Unionwyd y sgôr ar ôl i Phil Mickelson a Zach Johnson ennill eu gemau hwythau. Ond fe ddaliodd McDowell yn gadarn yn erbyn Mahan i sicrhau’r pwynt holl bwysig a gwneud yn siŵr bod y Cwpan Ryder ‘nôl yn nwylo Ewrop.