Mae Rob Earnshaw wedi tynnu ‘nôl o garfan Cymru’r gemau rhagbrofol yn erbyn Bwlgaria a’r Swistir oherwydd anaf.
Dyw’r ymosodwr heb chwarae tros Nottingham Forest yn eu gemau diwethaf oherwydd yr anaf i’w goes ac fe gadarnhawyd heddiw na fyddai’n ffit i ymuno gyda’r garfan heddiw.
Fe fydd ymosodwr ifanc Southampton, Ryan Doble yn cymryd lle Earnshaw yn y garfan.
Newydd gyrraedd carfan dan 21 Cymru diwedd y tymor diwethaf oedd Doyle, ac fe enillodd ei gap cyntaf mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Awstria.
Fe fydd Cymru’n wynebu Bwlgaria yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Wener yng ngêm gyntaf Brian Flynn wrth y llyw, cyn herio’r Swistir yn Basel y nos Fawrth canlynol.