Mae Prif Hyfforddwr y Scarlets, Nigel Davies yn credu bod ei dîm yn parhau i gryfhau er gwaethaf colli yn erbyn y Gweilch dros y penwythnos.
Dywedodd Nigel Davies bod ei dim wedi chwarae’n dda er gwaetha’r golled, a’i fod o’n teimlo’n gadarnhaol wrth i’r rhanbarth Cymreig baratoi i wynebu Perpignan yn y Cwpan Heineken ym Mharc y Scarlets ddydd Sadwrn.
“Ro’n i’n teimlo y galle’n ni fod wedi ennill y gêm yna ac r’y ni’n rhwystredig iawn bod pethau wedi mynd o chwith,” meddai’r Prif Hyfforddwr.
“Roeddwn i’n hapus iawn â’r chwaraewyr ac roedd yna sawl peth cadarnhaol i feddwl amdanynt cyn symud ymlaen i gystadleuaeth Ewrop penwythnos nesaf.
“Mae’r grŵp yma’n mynd i gryfhau ac r’y ni’n mynd i’r cyfeiriad cywir,” ychwanegodd Nigel Davies.