Mae Taliban Pacistan wedi hawlio cyfrifoldeb am ymosodiad cyn y wawr ar danceri oedd yn cario tanwydd i Afghanistan ar gyfer byddin yr Unol Daleithiau a Nato.
Roedd y tanceri yn segur ar ochor y ffordd ar ôl i Bacistan gau man croesi allweddol.
Roedd tua dwsin o wrthryfelwyr wedi saethu at y tanceri oedd wedi dod i stop ar gyrion y brifddinas Islamabad.
Roedd tua 20 o danceri wedi ffrwydro a phedwar person wedi marw a saith wedi eu hanafu, meddai’r awdurdodau.
Oriau yn ddiweddarach ymosododd gwrthryfelwyr ar ddau dryc arall oedd yn cario nwyddau Nato yn ne-orllewin Pacistan, gan ladd y gyrrwr.
Mae yna bedwar ymosodiad o’r math yma wedi bod ers i Bacistan gau ei brif fan croesi gydag Afghanistan ddydd Iau.
Roedd Pacistan wedi cau’r man croesi ar ôl honni bod Nato wedi bod yn hedfan dros y ffin er mwyn ymosod ar dargedau y tu mewn i Bacistan.
“R’yn ni’n trio ein gorai i amddiffyn y llefydd ble mae triciau wedi casglu, ac ni fydden ni’n gyrru unrhyw dryciau eraill allan am nawr,” meddai Shakir Khan Afridi, llywydd Cymdeithas Trafnidiaeth Khyber.