Methodd David Davies ag ennill medal yn rownd derfynol ras nofio dull rhydd 400m yng Ngemau’r Gymanwlad yn Delhi ar ôl gorffen yn bedwerydd.

Fe enillodd Ryan Cochrane o Ganada’r ras gydag amser o 3.48.4 ac roedd Ryan Napoleon o Awstralia yn ail gydag amser o 3.48.5.

Fe gipiodd yr Albanwr, David Carry y fedal efydd ar ôl gorffen y ras mewn amser o 3.50.060 ac roedd David Davies ychydig y tu ôl iddo gydag amser o 3.50.520.

Ond fe fydd y Cymro, sy’n arbenigo mewn nofio pellter hir yn gobeithio am fwy o lwyddiant yn ras nofio dull rhydd dros 1500m.