Mae ffermwr moch oedd wedi cadw ei anifeiliaid mewn amgylchiadau mor erchyll fel eu bod nhw wedi dechrau bwyta ei gilydd wedi osgoi dedfryd o garchar.
Roedd ymchwilwyr wedi mynd i’r Happy Pig Company yn Pevensey, ger Eastbourne, yn Nwyrain Sussex, ar 15 Ionawr a dod o hyd i’r moch yn byw heb fwyd, dŵr na lle i gysgu.
Roedd o leiaf dau o’r moch wedi marw ac roedd y moch eraill wedi dechrau eu bwyta nhw am nad oedd unrhyw fwyd arall ar gael.
Cyfaddefodd Keith Barnett, 60, o The Square, Pevensey Bay, i saith cyhuddiad o greulondeb i anifeiliaid ddechrau’r mis.
Roedd o wedi dechrau cadw’r moch yn 2007 ond roedd pethau wedi dirywio ar ôl iddo ddioddef o drawiad ar y galon.
Cafodd ei wahardd rhag cadw moch, a’i wahardd rhag gadael ei gartref rhwng 7pm a 7am am bum mis, a’i orfodi i dalu £880 mewn costau. Dywedodd y llys y byddai’n cael cadw ei 12 cyw iâr.
“Fe fyddai wedi gallu cael ei ddedfrydu i gyfnod yn y carchar ac roedd hwnnw’n un o’r opsiynau edrychodd y llys arno,” meddai’r erlynydd Gareth Jones.
“Os ydych chi’n edrych ar ôl moch, gwnewch yn siŵr fod ganddyn nhw ddigon o fwyd, dŵr a lle i gysgu.
“Roedd amodau byw’r moch yn wael iawn. Mae’n eironig mai enw’r cwmni oedd yr Happy Pig Company.”