Fe fydd corff Cymro fu farw yn Afghanistan yn cael ei hedfan yn ôl i RAF Lyneham yn Swydd Wilton heddiw.

Cafodd y Corporal Matthew Thomas ei ladd gan un o ffrwydron ochr y ffordd y Taliban wrth gydweithio gyda’r lluoedd arbennig yn rhanbarth Helmand Afghanistan ar 25 Medi.

Fe fydd seremoni breifat yn cael ei chynnal yng nghapel y ganolfan RAF cyn i’w gorff gael ei gludo drwy dref gyfagos Wootton Bassett.

Mae disgwyl i gannoedd o bobol sefyll bob ochor i stryd fawr y dref er mwyn talu teyrnged iddo, fel sy’n draddodiad yno.

Dywedodd llefarydd ar ran y fyddin ei fod o’n “arweinydd naturiol ac yn gosod safonau uchel iawn, gan ddangos cryfder moesol, a meithrin y rheini oedd dan ei awdurdod”.

“Roedd y milwyr oedd o’n eu cefnogi wrth eu bodd gyda ‘Tommo’. Fe fu farw gyda’r milwyr yma, ac roedd y cwlwm rhyngddyn nhw yn golygu cymaint iddo.”

Mae 338 o filwyr Prydeinig wedi marw ers dechrau’r rhyfel yn Afghanistan yn 2011.