Mae Grŵp Bancio Lloyds ar frig tabl cwynion yn erbyn banciau hyd yn hyn gyda bron i 290,000 cwyn yn eu herbyn yn ystod chwe mis cynta’r flwyddyn.
Mae cwmnïau Lloyds wedi derbyn 288,717 cwyn am faterion megis gwasanaeth gwael, cyngor gwael a thaliadau dros y chwe mis diwethaf yn ôl yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol.
Fe dderbyniodd Barclays 250,667 cwyn, a Santander 244,978.
Royal Bank of Scotland sy’n cynnwys RBS a NatWest oedd nesaf ar y rhestr gyda’n agos i 140,000 o gwynion tra bod 81,271 wedi cwyno am HSBC.
Yn gyfan gwbl roedd 1.25 miliwn o gwynion wedi cael eu gwneud yn erbyn banciau a chymdeithasau adeiladu, sy’n gynnydd o 5% ar yr un adeg llynedd.
Newidiadau
Mae’r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol hefyd wedi cyhoeddi ffigurau am y nifer o’r cwynion oedd y banciau wedi delio â nhw o fewn wyth wythnos.
Roedd Lloyds TSB wedi delio â 97% o’u cwynion o fewn wyth wythnos gyda Barclays yn delio â 91%. Ond dim ond 46% o’u cwynion oedd Santander wedi mynd i’r afael gyda nhw.
Mae’r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol wedi cynnig newidiadau i’r ffordd y mae banciau yn delio â chwynion er mwyn gwella safonau.
Yn ôl y cynigion byddai’n rhaid i fanciau gyflogi rheolwyr sy’n gyfrifol am gwynion. Yn ogystal â hynny byddai’n rhaid i fanciau esbonio bod hawl gan gwsmeriaid i fynd a’u cwynion ymhellach at yr ombwdsmon ariannol.