Mae’r Prif Weinidog, Carwyn Jones wedi dweud na wnaeth y Gweinidog Iechyd Edwina Hart gamarwain y Cynulliad, a’i fod o wedi ei “synnu a’i siomi” gan yr honiadau yn ei herbyn.
Galwyd arno i ymchwilio ar ôl i Aelodau Cynulliad y gwrthbleidiau gyhuddo Edwina Hart o guddio bodolaeth adroddiad beirniadol i safon y gwasanaeth iechyd yng Nghymru.
Dywedodd Carwyn Jones bod copi o ddogfen gan gwmni ymgynghorol McKinsey a aeth i ddwylo’r Democratiaid Rhyddfrydol, yn gyfres o sleidiau.
Roedd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Kisrty Williams, wedi gofyn i’r Prif Weinidog ymchwilio i weld a oedd Edwina Hart wedi torri rheolau gweinidogol.
Llythyr Carwyn Jones
Wrth ymateb dywedodd Carwyn Jones: “Rydw i wedi fy synnu a fy siomi gan eich honiadau.
“Fe alla’i eich sicrhau fy mod i’n hollol fodlon nad oedd y Gweinidog wedi camarwain y Cynulliad ynglŷn â’r mater yma, ac nad oedd hi wedi mynd ati i wneud hynny.”
Dywedodd bod Edwina Hart wedi ei gwneud hi’n glir bod cwmni McKinsey wedi ei gyflogi gan brif weithredwr y Gwasanaeth Iechyd Gwladol er mwyn helpu’r byrddau iechyd i greu cynllun pum mlynedd.
Ychwanegodd fod McKinsey wedi casglu barn byrddau iechyd, ymddiriedolaethau, arweinwyr clinigol ac undebau llafur ar yr her oedd yn wynebu’r gwasanaeth iechyd gwladol.
Roedd y cwmni wedi defnyddio cyfres o sleidiau oedd yn cynnwys rhai o’r sylwadau ynglŷn â’r gwasanaeth iechyd gwladol er mwyn helpu gyda’r broses.
“Rydw i ar ddeall bod y ddogfen ydach chi’n cyfeirio ato yn gyfres o rai o’r sleidiau gafodd eu defnyddio,” meddai.
“Doedd y gweinidog heb chwarae unrhyw ran wrth greu’r sleidiau a ni wnaeth hi dderbyn copi o’r sleidiau.
“Felly rydw i’n siomedig eich bod chi wedi gwneud y cyhuddiadau yma, yn enwedig o ystyried bod y Gweinidog yn gwneud ei gorau glas i roi gwybod i Aelodau’r Cynulliad beth sy’n mynd ymlaen.”
Ymateb Kirsty Williams
Dywedodd Kirsty Williams nad natur yr adroddiad oedd yn bwysig, ond y ffaith bod cwmni McKinsey wedi dod o hyd i “gyfres o fethiannau” yng Ngwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru.
“Mae honiad y Prif Weinidog nad oedd y Gweinidog Iechyd yn rhan o’r broses ac nad oedd hi hyd yn oed wedi cael copi o’r adroddiad yn anodd ei gredu,” meddai.
“Mae angen i Lywodraeth Llafur a Phlaid Cymru roi’r gorau i fynd ymlaen am natur y ddogfen a dechrau ystyried y feirniadaeth ddifrifol y mae o’n ei gynnwys.”