Mae swyddogion iechyd wedi dweud y bydd y mesurau arbennig tros glefyd y llengfilwyr ym Mlaenau’r Cymoedd yn dod i ben yn swyddogol ymhen llai na phythefnos – os na fydd achosion newydd.

Bu farw dau berson oherwydd clwstwr o achosion o’r clefyd yn yr ardal – dyn 85 oed ar 11 Medi a menyw 49 oed y diwrnod canlynol.

Mae 22 person wedi derbyn triniaeth mewn ysbytai ers dechrau’r achosion sydd wedi tarddu fwy na thebyg o safle yn ardaloedd Glyn Ebwy neu Ferthyr.

Yn swyddogol roedd swyddogion iechyd yn ceisio olrhain tarddiad yr haint mewn ardal 7.5 milltir y naill ochr a’r llall i ffordd Blaenau’r Cymoedd rhwng Y Fenni a Llandarsi.

Does dim achos newydd o’r haint wedi cael ei gofnodi ers 19 diwrnod.

Ymchwilio’n parhau

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi dweud bod yna nifer o fannau’n cael eu harchwilio wrth iddynt geisio dod o hyd i darddiad yr haint.

“Fe fyddwn ni’n parhau i chwilio am fwy o achosion ac ymchwilio i’r rhai presennol,” meddai Dr Gwen Lowe o Iechyd Cyhoeddus Cymru.

“Dyw clefyd y llengfilwyr ddim yn gallu cael ei drosglwyddo o berson i berson. Felly r’yn ni’n ymchwilio i’r llefydd y mae pobol wedi bod lle byddai’n bosib iddyn nhw fod wedi dod i gysylltiad gyda’r haint.”

Os na fydd amgylchiadau’n newid, fe fydd y rhybudd am yr achosion yn dod i ben ar 12 Hydref.

Llun: Blaenau’r Cymoedd (Golwg360)