Mae Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD) yn anhwylder genetaidd, yn ôl ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd.

Mae’r ymchwilwyr yn honni mai gwahaniaeth yn yr ymennydd sy’n gyfrifol am yr anhwylder yn hytrach na diffyg rheolaeth gan rieni neu blant sy’n bwyta’r pethau anghywir.

Roedd yna eisoes dystiolaeth bod plant gyda ADHD yn fwy tebygol o fod â rhiant a oedd hefyd yn dioddef o’r anhwylder, ond cyn nawr doedd dim tystiolaeth ei fod yn anhwylder genetaidd.

Mae’r anhwylder yn effeithio ar un o bob 50 o blant gwledydd Prydain, ac yn eu gwneud nhw’n aflonydd a byrbwyll, gan achosi problemau gartref ac yn yr ysgol.

Amrywiaethau DNA

Yn ôl y tîm roedd amrywiadau yn DNA y plant – darnau bychan oedd wedi eu dyblygu neu ar goll – ddwywaith yn fwy cgyffredin mewn plant gyda ADHD na phlant oedd heb yr anhwylder.

Yn ôl yr ymchwil, a gyhoeddwyd yng nghylchgrawn Lancet, roedd y rhannau o DNA y plant oedd wedi eu heffeithio yn gorgyffwrdd â’r rhannau sy’n achosi awtistiaeth a sgitsoffrenia.

Roedd y rhan fwyaf o’r gorgyffwrdd yn digwydd yng nghromosom 16, sydd â rhan bwysig wrth ddatblygu’r ymennydd.

‘Enw drwg’ – sylwadau’r ymchwilwyr

“Rydyn ni’n gobeithio y bydd y canfyddiadau yma yn helpu i gael gwared ar rywfaint o’r enw drwg sydd gan ADHD,” meddai’r Athro Anita Thapar, o’r Adran Seicoleg.

“Mae pobol wedi bod yn barod i ddweud bod ADHD yn cael ei achosi gan ddiffyg rheolaeth gan rieni neu blant sy’n bwyta’r pethau anghywir. Ond roedd hi’n amlwg i fi bod hynny’n annhebygol iawn.

“Nawr mae’n bosib dweud gyda hyder bod ADHD yn anhwylder genetaidd a bod ymenyddiau plant sydd â’r anhwylder yn datblygu’n wahanol i blant eraill.”