Mae swyddogion ym Mhacistan yn dweud bod hofrenyddion NATO wedi lladd tri o’u milwyr nhw ar y ffin gydag Afghanistan.
Yr honiad yw eu bod wedi tanio at un o safleoedd diogelwch byddin Pacistan, a hynny ychydig ddyddiau ar ôl cael eu cyhuddo o ymosod ar wrthryfelwyr y tu mewn i’r wlad.
Roedd yna straen ar berthnasau rhwng NATO a Phacistan yn sgil y digwyddiad hwnnw gyda’r Llywodraeth yn Islamabad yn bygwth rhoi’r gorau i ddiogelu confois y cynghreiriaid.
Mae NATO’n dweud y byddan nhw’n ymchwilio i’r cyhuddiadau am yr ymosodiad mewn ardal fynyddig yng ngogledd-orllewin y wlad.
Yn ôl llefarydd, roedden nhw’n credu bod yr ymosodiad ar y gwrthryfelwyr wedi digwydd yn Afghanistan ei hun.
Llun: Milwyr Pacistan (AP Photo)