Pobol oedrannus a theuluoedd ifanc sydd mewn peryg o ddiodde’ fwya’ oherwydd y toriadau mewn gwario cyhoeddus, yn ôl prif elusen yr henoed.
Yn ôl Age UK, fe fydd y bobol dlota’ tros 75 oed yn colli cymaint ag un rhan o dair o’u hincwm bob blwyddyn os bydd y Canghellor yn cadw at ei fwriad i wtogi budd-daliadau a chymorth.
“Gan fod pobol hŷn yn gyffredinol yn dlotach a mwy dibynnol ar wario cyhoeddus na grwpiau eraill, maen nhw mewn peryg o ddiodde’r gwaetha’ o doriadau chwyrn, os na fydd penderfyniadau’r llywodraeth yn cael eu gwneud yn deg ac yn ofalus,” meddai Michelle Mitchell, cyfarwyddwr elusennol Age UK.
“Gyda bywydau miloedd o bobol hŷn mewn peryg os bydd gwasanaethau hanfodol yn cael eu torri, fydd dim maddeuant parod i’r Canghellor os bydd yn methu â chefnogi’r hyna’ a’r mwyaf bregus.”
Manylion yr ymchwil
Roedd yr ymchwil wedi cael ei wneud ar eu rhan gan swyddogion o’r Gymdeithas Fabiaidd a Landman Economics.
Maen nhw’n amcangyfri’ y bydd teuluoedd sydd ag aelod tros 75 oed yn colli cyfartaledd o £2,200 y flwyddyn erbyn 2014-15.
Yn ogystal â’r golled i’r bobol dlota’ tros 75 oed, fe fyddai teuluoedd tlawd rhwng 65 a 74 oed hefyd yn colli 29% o’u hincwm, meddai’r ymchwilwyr.
Honiad arall yw y byddai toriadau gwario cyhoeddus yn golygu colli gwasanaethau gyda hanner miliwn o bobol oedrannus yng ngwledydd Prydain yn gorfod gwneud heb ofal yn y cartref.
Dyw holl fanylion y toriadau mewn gwario a budd-daliadau ddim ar gael eto – fe fydd y Canghellor yn gwneud ei gyhoeddiad ymhen tair wythnos.